Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Ionawr 2024
Amser:
09.00 -
09.13
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Rhun ap Iorwerth AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan. Roedd Rhun ap Iorwerth yn bresennol yn ei lle.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiadau a ganlyn:
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd (30 munud)
· Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer llety ymwelwyr (30 munud)
· Ni fydd cyfnod pleidleisio.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2024
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau dwysáu ac ymyrryd (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ystadau Cymru (30 munud)
· Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024 (5 munud)
· Dadl: Ffyniant Bro (60 munud)
Dydd Mawrth 23 Ionawr 2024
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Strategaeth Tlodi Plant Cymru (45 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi Blaenau’r Cymoedd (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gweithredu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adnewyddu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop (30 munud)
· Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024 (15 munud)
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 31 Ionawr 2024 -
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer Bil Diwygio’r Senedd, gan nodi’r terfyn amser newydd ar gyfer trafodion Cyfnod 2, sef 15 Mawrth 2024.
Hefyd cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno cynnig yng Nghyfnod 2, o dan Reol Sefydlog 26.17(iii), i ofyn am gytundeb y Senedd i drafodion Cyfnod 2 ar y Bil gael eu hystyried gan Bwyllgor o'r Senedd gyfan.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais y Pwyllgor Deisebau i gynnal dadl ar ddeisebau P-06-1359 a P-06-1362 ac i drefnu’r ddadl ar gyfer 31 Ionawr 2024.